Ydych chi'n gweithio yn y sector cyhoeddus?
Oes gennych chi broblem na allwch ei datrys eich hun? Siaradwch â ni!
Nod y Gronfa Her £10m yw sbarduno arloesedd yn sector cyhoeddus Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Nod Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw adeiladu cyfoeth lleol ac ysgogi twf economaidd drwy heriau ac arloesedd a lywir gan genhadaeth sy’n mynd i’r afael â heriau gwasanaeth cyhoeddus a phroblemau cymdeithasol.
Ein Meysydd Blaenoriaeth:
Cyflymu Datgarboneiddio
Cael mynediad at gyllid a chymorth drwy’r Gronfa i helpu i lunio a chyflawni heriau ynni glân targedig sy’n defnyddio arloesedd a chreadigrwydd busnesau gan ganolbwyntio ar gyrraedd y targedau argyfwng hinsawdd a sero net. Gallai heriau gynnwys datgarboneiddio asedau trafnidiaeth gyhoeddus, cefnogi arloesedd tuag at ystâd gyhoeddus werddach, gwelliannau i seilwaith a allai ofyn am ymagwedd newyddach at gaffael. Sut y gallwn gymell y farchnad drwy ddull herio i gyflawni prosiectau effeithiol sy’n gallu ysgogi manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer economi werddach, fwy cynaliadwy a chylchol yn y rhanbarth?
Gwella Iechyd a Lles
Cyfleoedd i ddatgloi arloesedd busnes a thwf economaidd drwy sbarduno gwelliannau o ran darparu gwasanaeth, gan wneud y defnydd gorau o’n pŵer prynu Sector Cyhoeddus i gaffael prototeipiau arloesol a graddio modelau iechyd a gofal cymdeithasol newydd, tra’n cefnogi arloesedd busnes yn y rhanbarth drwy ymgysylltu â’n cymunedau cyflenwyr presennol a newydd.
Ble gall dull sy’n canolbwyntio ar genhadaeth neu sy’n cael ei lywio gan her ychwanegu gwerth at ein system iechyd a gofal? Ble gallwn ysgogi cyfleoedd busnes newydd i gefnogi ein clwstwr dyfeisiau meddygol a diagnosteg yn y rhanbarth?
Cymorth, Gwella a Thrawsnewid Cymunedau
Mae ein Canol Trefi a’n Cymunedau Gwledig yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr. Mae’r dull Herio yn hwyluso dull arloesol o adfywio ein mannau cymunedol, gan ysgogi cyfleoedd newydd i fynd i’r afael ag effeithiau manwerthu datganoledig, ymateb i’r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â’n strydoedd mawr, a chroesawu cyfleoedd yn y ffyrdd newydd o weithio a ddaeth yn sgil y pandemig. Sut gallwn adeiladu cyfoeth lleol drwy fabwysiadu dulliau arloesol sy’n cael eu harwain gan her ac sy’n cefnogi ein Heconomi Sylfaenol mewn sectorau fel bwyd a ffermio, er enghraifft?
Os yw eich sefydliad yn wynebu her sy’n perthyn i un o’r meysydd blaenoriaeth hyn, rydym yma i helpu i ddod o hyd i ateb…