Amdanom ni

Beth yw Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?

Mae Cronfa Her P-RC yn darparu mecanwaith i ymgysylltu â chyrff sector cyhoeddus sy’n weithredol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth nodi a datblygu heriau a’u cysylltu â sefydliadau a all ddarparu datrysiadau arloesol i’r heriau hynny, gan arwain at wasanaethau gwell, gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, a chynhyrchiant cynyddol.

Diben y cyllid yw helpu’r sector cyhoeddus i gael gafael ar gynhyrchion a gwasanaethau newydd er mwyn mynd i’r afael â’r heriau ac wrth wneud hynny, darparu llwybr i’r farchnad ar gyfer y datrysiadau hynny. Mae cyrff sector cyhoeddus yn cynnig heriau ar gyfer cymorth, a bydd y rhai sy’n llwyddo i sicrhau dyfarniad cyllid yn gweithredu fel sefydliadau ‘Perchennog Her’ a byddant yn gweithio’n agos gyda ‘Darparwyr Datrysiadau’ posibl i ddatblygu datrysiadau.

Beth yw Nodau Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?

Nod y Gronfa Her yw adeiladu cyfoeth lleol drwy greu cyfleoedd masnachol i sefydliadau ledled P-RC, drwy eu gwahodd i gynnig datrysiadau i heriau ar draws tair thema flaenoriaeth: cyflymu datgarboneiddio, gwella iechyd a lles dinasyddion y rhanbarth, a chefnogi, gwella a thrawsnewid cymunedau.

Nod y Gronfa Her yw

Datrys heriau cymdeithasol a/neu broblemau o ran darparu gwasanaeth

Creu datrysiadau arloesol

Darparu effaith economaidd i’r rhanbarth

Sbarduno cyfleoedd masnachol uwchraddiadwy

Adeiladu cyfoeth lleol

Partneriaid Allweddol

Rydym yn cydweithio i fynd i’r afael â rhai o faterion pwysicaf Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ddefnyddio talent y rhanbarth i ddatblygu atebion newydd lle mae anghenion heb eu bodloni.

Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn trawsnewid yr economi, y dirwedd fusnes a’r potensial ar gyfer ffyniant cynhwysol ar draws rhanbarth mwyaf poblog Cymru.

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd yw’r partner cyflawni ar Gronfa Her P-RC, gyda’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesi yn cynnal ymchwil gydweithredol ar arloesi.

Skip to content