Astudiaethau Achos
Y Gronfa Her hyd yma:
Mae Cronfa Her P-RC yn darparu mecanwaith i ymgysylltu â ‘Pherchnogion Her’ a ‘Darparwyr Datrysiadau’ Sector Cyhoeddus drwy heriau sy’n seiliedig ar arloesedd.
Gan dynnu ar greadigrwydd a dyfeisgarwch y rhanbarth a dod â’r sector cyhoeddus a phreifat ynghyd er mwyn darparu atebion newydd, gwelliannau mawr a chyfleoedd busnes newydd, mae’r gronfa’n canolbwyntio ar y blaenoriaethau mwyaf brys y mae’r rhanbarth yn eu hwynebu.
Gan fod y Gronfa Her yn dal i fod ar y cam llunio, mae’r astudiaethau achos isod wedi’u benthyg gan y MYBB sy’n defnyddio proses debyg i ddarparu atebion arloesol i heriau a wynebir gan y sector cyhoeddus. MYBB yw rhaglen gaffael cyn-fasnachol y DU sy’n defnyddio’r broses o gaffael ymchwil a datblygu i gefnogi’r gwaith o greu cynhyrchion ac atebion newydd i fynd i’r afael ag anghenion nas bodlonwyd. Mae’n creu cyfleoedd busnes newydd i gwmnïau, yn darparu llwybr i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) farchnata eu syniadau ac yn pontio’r bwlch cyllid sbarduno a brofir gan lawer o gwmnïau cam cynnar.