Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd heddiw (y 19eg o Hydref, 2020) wedi cymeradwyo Cronfa Her gwerth £10 miliwn sydd â’r nod o ailadeiladu cyfoeth lleol drwy ddod â datrysiadau arloesol i oresgyn rhai o broblemau cymdeithasol mwyaf brys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Beth yw’r Gronfa Her?
Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ac YLab, fe fydd y gronfa’n gwahodd cyrff ein sector cyhoeddus i ddatblygu heriau ac i gysylltu â sefydliadau sy’n gallu darparu datrysiadau arloesol i’r heriau a nodwyd. Nod yr ymagwedd hon yw gwneud defnydd o greadigrwydd a dyfeisgarwch y rhanbarth a dod â’r sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd er mwyn cyflenwi datrysiadau newydd, lle nad oes yna ddatrysiad masnachol yn bodoli ar hyn o bryd, ac i ddarparu llwybr i farchnadoedd ar gyfer y datrysiad.
Nodi Tair Thema Allweddol
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi nodi tair thema flaenoriaethol allweddol y mae’n dymuno i’r heriau roi sylw iddynt. Y gyntaf yw cyflymu datgarboneiddio – yn benodol, yn gysylltiedig â gwella ansawdd aer, a thrafnidiaeth. Yr ail yw gwella iechyd a lles dinasyddion y rhanbarth, gan ystyried materion megis bwyd ac iechyd, a diogeledd bwyd. Y drydedd yw cefnogi, gwella a thrawsnewid cymunedau, gan ganolbwyntio ar ganol trefi, prif strydoedd a chymunedau gwledig.
Mae’r rhain i gyd yn broblemau hirdymor y byddai cyrff y sector cyhoeddus wedi bod yn ymgiprys â nhw, p’un bynnag. Ond mae’u natur frys wedi’i dwysáu gan brofiad yr haint Covid. Mae’r cyfyngiadau symud wedi codi cwestiynau newydd am sut rydym yn trefnu’n trafnidiaeth a gwella ansawdd aer. Maent hefyd wedi creu’r angen i ganfod datrysiadau newydd i helpu’n prif strydoedd a chanol ein trefi sydd yn ei chael hi’n anodd, ac sydd wedi’u taro’n ddrwg gan gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid.
Mae’r gronfa hefyd yn rhoi her i sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector: dyma’r broblem rydym wedi’i nodi ac wedi canfod datrysiad arloesol iddi. Yn wahanol i ymarferion caffael blaenorol, o dan y Gronfa Her ni fydd cyrff y sector cyhoeddus yn diffinio’r datrysiad y mae arnynt ei eisiau ac wedyn yn gofyn i fusnesau’r sector preifat gyflwyno cynnig i’w ddarparu.
Yn hytrach, fe fyddant yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gwmnïau’r sector preifat i ganfod datrysiadau. Y gobaith yw y bydd hyn yn ysbrydoli creadigrwydd ymysg y cwmnïau hynny i ganfod ffyrdd newydd o wneud pethau na cheisiwyd eu gwneud o’r blaen.
Yn olaf, mae’r gronfa hefyd yn herio’r sector cyhoeddus i ollwng rhywfaint o’i reolaeth ar y broses gaffael. Wrth graidd y Gronfa Her y mae yna uchelgais i harneisio nerth Arloesi mewn Caffael gan hefyd gefnogi Caffael Arloesi drwy ddefnyddio ymagweddau megis y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) i nodi ac i ddatblygu heriau unigol i greu syniadau, datrysiadau, a phrosiectau newydd. Yn hytrach na bod yn rheoli pob cam o’r daith, o nodi problem i ddiffinio datrysiad a dewis y cynigiad gorau, yn awr fe fydd y corff cyhoeddus, ar ôl iddo nodi’r broblem, yn gwahodd eraill i ganfod datrysiadau. Gobeithir y bydd yn profi’n brofiad rhyddhaol ac y bydd yn cyflawni gwell datrysiadau.
Sicrhau bod datrysiadau’n cyflawni’r effaith fwyaf
Mae gan y gronfa elfennau eraill sy’n egluro pam mae gan bobl ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd obeithion uchel ar ei chyfer. Caiff y datrysiadau arfaethedig eu barnu yn erbyn cyfres o feini prawf a gynlluniwyd i sicrhau y cânt yr effaith gadarnhaol uchaf bosibl. Caiff datrysiadau’u barnu nid yn unig ar eu newydd-deb ond hefyd ar eu gallu i greu gwelliannau radicalaidd, ac yn hanfodol, ar eu potensial ar gyfer canlyniadau masnachol sydd â’r gallu i newid mewn maint neu raddfa.
Bydd yn rhaid iddynt gyflawni effaith sylweddol mewn perthynas â graddfa’r broblem a’r adnoddau y maent yn eu defnyddio. Byddant yn datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd, ac yn darparu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus sy’n sylweddol, sy’n gallu newid ac sy’n gynaliadwy. Ac fe fydd ganddynt lwybr at farchnadoedd ac fe fyddant yn cyflenwi canlyniadau o ran datblygu cyfoeth lleol o fewn y rhanbarth.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn y cam cychwynnol, fe fydd y gwaith yn cylchdroi o amgylch adnabod yr union heriau, ac i’r diben hwnnw, fe ymofynnir datganiadau o ddiddordeb o ddifri’ yn awr gan holl sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n weithredol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd yna weithdai’n dilyn yn ddiweddarach eleni i ganiatáu cyfleoedd i sefydliadau’r sector cyhoeddus weithio â Thîm Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n partneriaid arloesi, Prifysgol Caerdydd, i ddatblygu’r heriau.
Y bwriad yw cwblhau’r cam hwn ac i fod wedi dyfarnu contractau cychwynnol erbyn diwedd mis Mawrth, 2021, pryd y bydd yr her yn cael ei lansio i’r farchnad agored ac y bydd yr arloesi go iawn yn dechrau.
Cyfnod Newydd, Ffyrdd Newydd o Weithio
Mae’r Gronfa Her yn parhau ag athroniaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o fynd i’r afael â datblygu economaidd mewn ffordd wahanol, ffordd sy’n fwy cydweithredol a chynhwysol. Bydd tîm y Gronfa’n datblygu arferion a thechnegau sydd wedi profi’n llwyddiannus; er enghraifft, mewn Menter Ymchwil Busnesau Bach, i greu ymagwedd benodedig sydd wedi’i llunio’n unswydd i ddiwallu anghenion y rhanbarth. Mae’n ymagwedd a gynlluniwyd i harneisio nerth cwmnïau bach a chanolig mwyaf arloesol y rhanbarth, i ailfywiogi’r economi sylfaenol, ac i radicaleiddio caffael cyhoeddus mewn ffordd sy’n rhoi mwy o werth am arian, sy’n creu gwell canlyniadau i ddinasyddion a chymunedau, ac sy’n hyrwyddo twf economaidd cytbwys.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bodoli i wneud y rhanbarth yn fwy cystadleuol a chadarn. Y Gronfa Her yw’r offer diweddaraf ym mlwch offer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth iddi geisio gwneud hynny.
Dywedodd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac aelod o Fwrdd Strategol y Gronfa Her:
“Mae hon yn gronfa gyffrous, ac ni allai fod wedi dod ar well adeg. Mae’n cynnig cyfleoedd inni edrych ar hen gwestiynau systemig drwy wydrau newydd. Mae’r dyfodol yn gofyn inni ailfeddwl ac ail-lunio, cofleidio arloesedd a newidiadau a gweithio â mwy o hyblygrwydd a chydweithrediad i greu marchnadoedd newydd a dyfodol gwell, mwy cynaliadwy. Mae’r fenter hon yn caniatáu inni wneud hynny, ac rwyf yn edrych ymlaen at fod â rôl lawn a gweithredol i wthio’r fenter hon ymlaen.”
Dywedodd Gill Bristow, Athro Daearyddiaeth Economaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o Fwrdd Strategol y Gronfa Her:
“Mae cymeradwyaeth Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ddatblygiad gwirioneddol gyffrous ar gyfer y ddinas-ranbarth, yn enwedig wrth inni geisio ailadeiladu’r economi yn sgîl Covid-19. Bydd y Gronfa Her yn ysgogi’r cydweithrediad rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ynglŷn â datblygu economaidd lleol, ac mae’n cynnig y cyfle i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus elwa o arbenigedd ymchwil ac arloesedd y Brifysgol wrth inni ymdrechu ar y cyd i ganfod datrysiadau i heriau cymdeithasol allweddol.”
Dywedodd Rick Delbridge, Athro Dadansoddi Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd a Phartner Cyflenwi Arweiniol:
“Rydym wrth ein bodd o fod yn cydweithredu â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar y Gronfa Her hon. Diben Rhaglen Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw creu cyfleoedd masnachol i gwmnïau sy’n cynnig datrysiadau addawol ac arloesol i heriau cymdeithasol mawrion a ganfuwyd gan gyrff cyhoeddus. Mae gan dîm Prifysgol Caerdydd hanes o lwyddiant mewn ymchwil sy’n arwain drwy’r byd ac effaith ar bolisi arloesi, datblygu economaidd ac arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac fe fyddwn yn gweithio â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a phartneriaid i ddatblygu a chyflenwi rhaglen arloesol o weithgareddau sy’n adeiladu o ymagweddau sydd wedi profi’n llwyddiannus i greu rhaglen benodedig.”