Nodweddion allweddol Cronfeydd Her

Shane Doheny

Cydymaith Ymchwil, Cronfa Her P-RC a Chanolfan Ymchwil Polisi Arloesi (CYPA)

Mae’r erthygl hon yn tynnu ar adolygiad llenyddiaeth helaeth ac yn dilyn o’r erthygl flaenorol yn amlinellu rhai pwyntiau allweddol i’w hystyried wrth ddylunio cronfa her. Yma rydym yn edrych yn fanylach ar nodweddion allweddol cronfeydd her. Yn amlwg, mae cronfa her yn fath arbennig o offeryn ariannu, ond mae tryloywder o ran natur benodol yr offeryn hwn yn helpu i ddeall y rôl y gall cronfa her ei chwarae ym maes arloesi.

Meddwl am Gronfeydd Her

Cafodd cronfeydd her eu datblygu gyntaf fel ffordd o gyflwyno cystadleuaeth i’r sector cyhoeddus. Mae cronfeydd her yn creu amgylchedd cystadleuol lle mae detholiad o weithredwyr yn cystadlu i gyflawni her yn llwyddiannus. Fodd bynnag, mae cronfeydd her hefyd yn meithrin cydweithrediad trwy, er enghraifft, annog cwmnïau a herio deiliaid i gydweithio, gan ei gwneud yn well meddwl am nod neu gyfeiriadaeth cronfa her benodol a’i natur. Mae Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) yn awyddus i annog cydweithio rhwng partneriaid sy’n gweithredu fel deiliaid her. Er enghraifft, gweler y rhai a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Her Bwyd Cynaliadwy sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth gan Gynghorau Caerdydd a Sir Fynwy.

Mae cronfa her yn gweithredu trwy osod nod a gwahodd eraill i gyrraedd y nod hwn (Copestake et al, 2015). Er ei bod yn syml, mae’r safbwynt hwn yn ein galluogi i gadw mewn cof ddimensiynau cydweithredol a chystadleuol y gronfa her oherwydd y gall gynhyrchu mannau lle mae pobl yn ffurfio Cymunedau Maes (CM) lle maent yn datblygu syniadau ac arloesedd, ond ar yr un pryd, lle maent yn ymwybodol eu bod yn gweithredu yng nghyd-destun cystadleuaeth gyffredinol. Mae’r rhan fwyaf o gronfeydd her yn darparu adnoddau y mae arloeswyr neu ‘ddarparwyr datrysiadau’ yn cystadlu ar eu cyfer. Yn ein Her Hyfforddi Efelychu dan arweiniad BIP Caerdydd a’r Fro, a gwblhawyd yn ddiweddar, cafodd dau gwmni a oedd yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth gychwynnol eu cefnogi trwy’r broses gyd-ddatblygu i ddarparu datrysiadau newydd.

Nid yw’r penderfyniadau ar nodau cronfa her yn niwtral a gellir eu hamrywio. Fel arfer, fodd bynnag, mae gan gronfeydd her ddiddordeb mewn ysgogi arloesi. Mae Pompa (2013) yn pwysleisio sut mae cronfeydd her yn creu’r amodau sy’n galluogi ymgeiswyr i arloesi. Ond mae’r pwyslais ar arloesi hefyd yn cyflwyno syniadau normadol i’r gronfa her. Pwy sy’n penderfynu beth yw her y gall arloesi ei datrys neu sy’n fater sydd angen adnoddau neu sgiliau ychwanegol yn unig? Sut gall cronfa her benderfynu bod syniad yn arloesol ac nad yw’n ailffurfio syniadau presennol yn unig? A sut gall cronfa her asesu beth sy’n arloesol mewn meysydd tra gwahanol? Mae angen delio â’r materion mwy sylweddol hyn wrth weithredu a rheoli cronfeydd her a bydd yn llywio pynciau mewn erthygl ddiweddarach.

Diffinio Cronfeydd Her

Er y gallwn feddwl am gronfeydd her o ran y nod o gyflwyno arloesedd, nid yw hyn yn ein helpu i wahaniaethu cronfeydd her o fathau eraill o fecanweithiau polisi arloesi. I wneud hyn mae angen i ni ymchwilio ymhellach i elfennau cydrannol cronfa her.

Mae canolbwyntio ar yr hyn sy’n gwneud cronfeydd her yn wahanol i fecanweithiau polisi arloesi eraill yn golygu nodi priodweddau cronfeydd her. Mae Copestake et al (2015) yn cyrraedd y diffiniad canlynol o gronfa her, gan adeiladu ar eu natur sy’n canolbwyntio ar y nod, lle mae un asiant yn gosod nod, ac mae’r gronfa her yn gwahodd eraill i gyflawni’r nod hwn:

Mae cronfa her (1) yn darparu grantiau neu gymorthdaliadau (2) rhwng asiantaethau annibynnol cyfreithiol (3) gyda phwrpas cyhoeddus penodola ddiffinnir gan y darparwr grant (4) ar sail rheolau a gweithdrefnau a hysbysebir yn gyhoeddus, lle (5) dewisir derbynwyr grant (6) chedwir disgresiwnsylweddol dros lunio a gweithredu eu cynigion (7) ond rhennir risgiau â’r darparwr grant..

Mae Copestake et al (2015) yn datblygu’r diffiniad hwn gyda’r bwriad o integreiddio’r syniad o her ag offeryn ariannu. Ar un olwg, mecanwaith yn unig y gellir ei ddefnyddio i ddod â syniad newydd i fodolaeth yw’r gronfa her. Mae’r diffiniad hwn yn gadael trafod a dewis y syniad i un ochr ac yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng unigolion a sefydliadau y mae’r gronfa’n eu meithrin. Mae hefyd yn dawel ar effaith gwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan heriau. Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i ddatrysiad i her gael ei ddatblygu yw i ddeiliad yr her benderfynu, ond efallai y dylid rhoi mwy o sylw i’r dimensiwn hwn gan y gronfa her a deiliaid yr her nag a awgrymir yn y llenyddiaeth bresennol. Wrth werthuso cynigion i Gronfa Her P-RC, telir sylw gofalus i’r potensial sydd gan y cynigion hyn ar gyfer creu cyfleoedd economaidd newydd ac ar gyfer mynd i’r afael â materion cymdeithasol.

Dadansoddodd Copestake et al (2015) y gwahaniaethau rhwng cronfeydd her a mathau eraill o fecanweithiau ariannu. Roedd eu gwaith yn dangos sut roedd cronfeydd her yn wir yn wahanol i gronfeydd eraill (e.e. Cronfeydd Rheoledig, Ymrwymiadau marchnad Uwch, Buddsoddiadau Effaith Gymdeithasol) mewn o leiaf un ffordd ac maent yn dod i’r casgliad bod cronfeydd her mewn gwirionedd yn fath gwahanol o fecanwaith ariannu. Yn ddiddorol, maen nhw hefyd yn nodi’r tebygrwydd cryf rhwng cronfeydd her a chronfeydd gwobrau her. Roedd Copestake ac O’Riordan (2015) yn teimlo bod cronfeydd p yn tueddu i wobrwyo ymdrechion y gorffennol ac yn llai clir ar bwrpas y gronfa, tra bod cronfeydd her yn ymwneud yn fwy â’r dyfodol a nodau. Fodd bynnag, gan fod modd cyfeirio gwobrau her a’u darparu i’r cyfranogwyr gan ddefnyddio cynllun o wobrau bach yn hytrach na gwobr unigol fawr i enillydd cyffredinol, yn ymarferol efallai nad yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau ddull mor fawr â hynny. Mae gan Nesta hanes hir o ddylunio a chyflwyno Gwobrau Her ac mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn i’r rhai sy’n ystyried y dull hwn.

Mathau o Gronfa Her

Mae’r llenyddiaeth ymchwil yn gwahaniaethu rhwng dau fath o gronfa her: y rhai sy’n canolbwyntio mwy ar ‘fenter’ a’r rhai sy’n canolbwyntio ar ‘gymdeithas sifil’ (Copestake et al. (2014), Davies ac Elgar, (2014)).

Yn ddiddorol, mae’r llenyddiaeth ymchwil yn ceisio gwahaniaethu’n glir rhwng y ddau ddull hyn. Mae’r llenyddiaeth yn disgrifio cronfeydd her menter fel rhai sy’n canolbwyntio ar fusnes a marchnadoedd ond yn gwneud hynny gyda chydwybod gymdeithasol. Mae cronfeydd her sy’n canolbwyntio ar gymdeithas sifil, ar y llaw arall, yn ymwneud â chyflawni nodau a fydd yn dwyn manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach. Fodd bynnag, mae gan y ddau fath rywfaint o fudd economaidd a chymdeithasol mewn golwg, ac felly gall y gwahaniaeth fod yn fwy o fater o radd nag o fath. Mae hynny’n sicr yn wir am sut rydym wedi datblygu Cronfa Her P-RC hyd yma. Mae heriau unigol i gyd wedi cynnwys elfennau o fuddion busnes a chymdeithasol gyda’r pwyslais yn amrywio yn ôl y nodau a’r cyfleoedd penodol.

Crynodeb

Mae cronfeydd her yn darparu offeryn ariannu sy’n dod â phobl at ei gilydd i ffurfio cysylltiadau gyda’r nod o ddatrys her. Fel offeryn ariannu, mae’r model cronfa her yn wahanol i’r rhan fwyaf o fecanwaith ariannu eraill ac eithrio gwobrau her. Yn olaf, er y gall cronfeydd her fod yn wahanol i’w gilydd, gall y gwahaniaethau hyn amrywio gan ddibynnu ar yr her sy’n cael sylw ac yn debygol o gyfuno buddiannau menter â diddordeb mewn pwrpas cyhoeddus. Yn ein herthygl nesaf byddwn yn ystyried sut mae cronfeydd her yn gweithredu a materion sy’n codi wrth nodi a dewis heriau, a hyrwyddo heriau i ddarparwyr datrysiadau posibl i annog ymatebion.

Rhannu

Darllen mwy o newyddion

Skip to content