Shane Doheny
Cydymaith Ymchwil, Cronfa Her P-RC a Chanolfan Ymchwil Polisi Arloesi (CYPA)
Mae’r erthygl fer hon yn crynhoi rhai o’r mewnwelediadau allweddol o adolygiad o llenyddiaeth academaidd ar gronfeydd her.[i] Er bod y term ‘cronfa her’ yn ymddangos mewn nifer fawr o bapurau ymchwil, dim ond cyfran fach o’r rhain sy’n ymdrin â Chronfeydd Her fel mecanwaith polisi. Mae hyn yn golygu mai ychydig o wybodaeth sy’n seiliedig ar ymchwil sydd ar gael. Fodd bynnag, mae’r ymchwil sy’n bodoli yn rhoi cipolwg ar faterion pwysig o ran trefniadau Cronfeydd Her a chyflwyno prosiectau a ariennir trwy Gronfeydd Her.
Mae’r prif bwyntiau a ddaw i’r amlwg o’r adolygiad llenyddiaeth o ran nodweddion allweddol cronfeydd her yn cynnwys:
- Y math o gronfa, gyda’r prif wahaniaeth rhwng cronfeydd her wedi’u seilio ar fenter a chronfeydd her mwy cymdeithasol eu naws. Serch hynny mae gan y ddau fath ddiddordeb mewn sicrhau canlyniadau economaidd cadarnhaol.
- O’u cymharu â mathau tebyg o gronfeydd, mae Cronfeydd Her yn tueddu i fod â mwy o olwg at y dyfodol a rhannu risgiau gyda darparwyr datrysiadau.
O ran dylunio a darparu cronfeydd her mae nifer o feysydd posib o densiwn sydd angen eu hystyried. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Mae angen i gronfeydd daro cydbwysedd rhwng defnyddio strategaethau marchnata mwy cynhwysol neu fwy detholus. Mae strategaethau marchnata cynhwysol yn mynd law yn llaw â chostau uwch o rhan rheoli ceisiadau aflwyddiannus. Gall strategaethau detholus leihau cydraddoldeb cyfle ond gallant ganiatáu i gronfeydd gyflawni nodau eraill megis alldaliadau cyflym.
- Gall monitro biwrocrataidd arwain at ddeiliaid Cronfeydd Her yn canolbwyntio ar effeithiau mesuradwy. Ond mae monitro yn bwysig lle nad oes llawer o sail i ymddiriedaeth rhwng y Gronfa Her a’r ymatebwr Her.
- Mae tystiolaeth a mecanweithiau gwerthuso yn bwysig ond o bosib yn anodd eu dylunio. Er enghraifft, i fod yn arloesol, mae angen caniatáu i ddeiliaid her ac arloeswyr gael cyfle i arbrofi mewn meysydd lle mae prinder tystiolaeth. Mae hyn yn creu heriau i gronfeydd sydd angen dangos gwerth am arian.
- Mae yna hefyd feysydd technegol a gwleidyddol o bosib i’w hystyried wrth ddylunio a chyflwyno cronfeydd her. Wrth ddangos effaith cyllido o’r fath, mae’n bwysig nodi i ba raddau y mae’r Gronfa ei hun yn gwneud gwahaniaeth, yn enwedig o ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau y gall Cronfa Her eu cefnogi. Er nad oedd adrodd uniongyrchol am hyn yn y llenyddiaeth, bydd angen i reolwyr cronfeydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o ymyrraeth wleidyddol wrth weithredu’r gronfa, er enghraifft o ran cefnogaeth i gynigion her penodol neu atebion arloesol.
Mae’r llenyddiaeth hefyd yn adrodd ar nifer o ddewisiadau sydd i’w gwneud o ran manylion gweithredol cronfeydd her. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau gwahanol o reoli cyllid ac o ran sut mae cynigion ar gyfer cyllid her yn cael eu trefnu a’u rheoli:
- Gall y rheolaeth ariannol sydd ynghlwm wrth gronfa her gael ei darparu gan gwmni allanol, partner trydydd parti neu’n fewnol gan reolwr cronfeydd penodedig. Mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod y broses o ddatblygu’r contract rhwng deiliad y gronfa a deiliad yr her yn creu cyfle am lawer iawn o ddisgresiwn a thrafod.
- O ran yr agweddau ariannol a chyflawni eraill, gall rheolwyr cronfeydd ddilyn arferion rheoli ysgafn neu fod yn fwy gweithredol. Efallai y bydd rheolwyr yn gweld eu bod yn rheoli ac yn goruchwylio gweithgareddau yn agosach lle mae’r heriau hyn yn cyd-fynd llai â nodau sefydliadol deiliaid yr her. I’r gwrthwyneb, lle mae mwy o aliniad, mae Cronfeydd Her wedi tueddu i ddefnyddio dull mwy ysgafn o reoli.
Yn olaf, o ran problemau posibl a allai gael eu hwynebu’n ymarferol, amlygodd yr adolygiad llenyddiaeth nifer fach o faterion gan gynnwys:
- Mae ymchwil yn y gorffennol wedi dangos y gallai’r broses o gynnig am gyllid gan ddarpar ddeiliaid her arwain at broblemau cyfathrebu rhwng y cynigydd a’r gronfa, er enghraifft o ran gradd yr uchelgais a’r arloesedd a ddisgwylir.
- Ar ben hynny, mae tystiolaeth yn awgrymu bod y broses o gynnig i Gronfeydd Her wedi tueddu i wobrwyo cyflwyniadau ceisiadau a gwobrwyo elfennau y gellir eu mesur yn rhwydd.
- Mae’r mater mesur a mesurau hefyd yn anhawster posibl wrth gyflawni. Gall monitro biwrocrataidd arwain at ddeiliaid y Gronfa Her i ganolbwyntio ar effeithiau mesuradwy sy’n cyfyngu ar arloesedd a chymryd risg. Er hynny, gwelir bod monitro yn bwysig lle nad oes perthynas sefydledig a sail bresennol dros ymddiriedaeth rhwng y Gronfa Her a pherchennog her.
Byddwn yn ystyried nifer o’r pwyntiau hyn yn fanylach mewn erthyglau dilynol.
Ar y cyfan, mae’r llenyddiaeth ymchwil yn cefnogi defnyddio Cronfeydd Her fel mecanwaith sydd â’r nod o sicrhau arloesedd. Fodd bynnag, nid yw Cronfeydd Her yn ateb syml i’r her o gyflwyno arloesedd i feysydd polisi, ac mae angen ystyried strwythur a dulliau cyflawni prosiectau drwy Gronfa Her yn ofalus.
Mae Cronfa Adeiladu Cyfoeth Lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i chynllunio a’i datblygu mewn partneriaeth rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu cael mynediad at y farn a’r dystiolaeth bresennol o ran cronfeydd her drwy fecanweithiau fel yr adolygiad llenyddiaeth hwn a hefyd drwy gyfweld ag arbenigwyr a phartïon â diddordeb. Mae’r broses hon o ymchwilio ac adfyfyrio yn parhau trwy ddatblygiad parhaus y fenter.
[i] Cynhaliwyd chwiliad o’r We Wybodaeth am erthyglau yn cynnwys y term “cronfa her” mewn unrhyw faes, ym mis Rhagfyr 2021. Mae canolbwyntio ar y term ‘Cronfa Her’ yn caniatáu i ni nodi erthyglau sy’n ymwneud â’r math penodol hwn o gronfa. Mae termau gwahanol, er enghraifft, gwobr her, cronfa a reolir, grant ymchwil agored – i gyd yn cyfeirio at wahanol fecanweithiau ariannu ac felly gwnaed y penderfyniad i ganolbwyntio ar “Gronfa Her” ar gyfer yr ymchwil hon. Gan ganolbwyntio ar y geiriad hwn, nodwyd 2,413 o erthyglau a allai fod yn berthnasol drwy ddefnyddio cronfa ddata’r We Wybodaeth. Fodd bynnag, mae canolbwyntio ar feysydd penodol yn arwain at lawer llai o ganlyniadau. Dim ond yng nghrynodebau o 22 erthygl yrt ymddangosodd y term “cronfa her”. O’r papurau sy’n archwilio Cronfeydd Her mewn termau penodol, mae pedwar yn canolbwyntio ar brofiad y Gyllideb Adfywio Sengl yn y 1990au, mae un yn archwilio adeiladu ‘cymuned’ gan Gronfa Her (Aiken, 2014), ac mae un yn archwilio’r cyfiawnhad dros ariannu cyrff anllywodraethol bach gan Gronfa Her Cymdeithas Sifil y DU. Dim ond dau bapur sy’n mynd i’r afael â mecanwaith cyflwyno Cronfa Her (Foley, 1999, Copestake ac O’Riordan, 2015). Yn amlwg, mae hyn yn awgrymu bod prinder tystiolaeth ymchwil academaidd ar Gronfeydd Her er gwaethaf y ffaith bod Cronfeydd Her wedi ariannu gwerthusiadau ers y dyddiau cynnar. Mae’r gwerthusiadau hyn wedi canolbwyntio ar y rhaglenni a gyflwynwyd gan Gronfeydd Her (er enghraifft, McDonald, 2015) gyda llai yn canolbwyntio’n benodol ar y Gronfa Her fel mecanwaith.