Polisi Preifatrwydd

Pwy ydyn ni

Ein gwefan yw: https://www.challengefund.wales/

Pa ddata personol rydym yn ei gasglu a pham rydym yn ei gasglu

Sylwadau

Pan fydd ymwelwyr yn gadael sylwadau ar y safle rydym yn casglu’r data a ddangosir yn y ffurflen sylwadau, yn ogystal â chyfeiriad IP yr ymwelydd a llinyn asiant defnyddiwr y porwr i helpu i ganfod sbam.

Gellid darparu llinyn dienw a grëwyd o’ch cyfeiriad e-bost (a elwir hefyd yn hash) i’r gwasanaeth Gravatar i weld a ydych yn ei ddefnyddio. Mae Polisi Preifatrwydd y gwasanaeth Gravatar ar gael yma: https://automattic.com/privacy/. Ar ôl cymeradwyo eich sylw, mae eich llun proffil yn weladwy i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw.

Y Cyfryngau

Os byddwch yn lanlwytho delweddau i’r wefan, dylech osgoi lanlwytho delweddau sy’n cynnwys data lleoliad wedi’i fewnosod (EXIF GPS). Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho ac echdynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Cwcis

Os byddwch yn gadael sylw ar ein gwefan, gallwch optio i mewn i gadw eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch gwefan mewn cwcis. Mae hyn er hwylustod i chi fel nad oes rhaid i chi lenwi eich manylion eto pan fyddwch yn gadael sylw arall. Bydd y cwcis hyn yn para am flwyddyn.

Os byddwch yn ymweld â’n tudalen mewngofnodi, byddwn yn gosod cwci dros dro i bennu a yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae’n cael ei waredu pan fyddwch yn cau eich porwr.

Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwn hefyd yn gosod sawl cwci i gadw eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn para am ddeuddydd, ac mae cwcis dewisiadau sgrin yn para am flwyddyn. Os byddwch yn dewis “Cofiwch Fi”, bydd eich manylion mewngofnodi’n cael eu cadw am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu dileu.

Os byddwch yn golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei gadw yn eich porwr. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae’n dangos ID yr erthygl rydych newydd ei golygu. Mae’n dod i ben ar ôl 1 diwrnod.

Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys sydd wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, mewnosod cwcis tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i fewnosod, gan gynnwys tracio eich rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi’i fewnosod os oes gennych gyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data

Os byddwch yn gadael sylw, mae’r sylw a’i fetadata yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Mae hyn er mwyn i ni allu adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn hytrach na’u dal mewn ciw cymedroli.

Ar gyfer defnyddwyr sy’n cofrestru ar ein gwefan (os oes rhai), rydym hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol y maent yn ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefannau hefyd weld a golygu’r wybodaeth honno.

Pa hawliau sydd gennych dros eich data

Os oes gennych gyfrif ar y wefan hon, neu os ydych wedi gadael sylwadau, gallwch wneud cais i dderbyn ffeil wedi’i hallforio o’r data personol sydd gennym amdanoch, gan gynnwys unrhyw ddata rydych wedi’i roi i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n rhaid i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.

Ble rydym yn anfon eich data

Gallai sylwadau ymwelwyr gael eu gwirio gan wasanaeth canfod sbam awtomataidd.

Skip to content