Cwestiynau Cyffredin ac Arweiniad
Cwestiynau Cyffredin i Berchnogion Her
Os nad yw’r ateb i’ch ymholiad ar gael yma, cysylltwch â ni drwy e-bostio: CCRChallengeFund@cardiff.ac.uk
Mae’n broblem darparu gwasanaeth a/neu gymdeithasol yr hoffai sefydliad cyhoeddus neu drydydd sector ei datrys, lle nad oes ateb ‘parod’ eisoes yn bodoli. Mae’r Gronfa Her yn cefnogi arloeswyr (rydym yn eu galw’n Ddarparwyr Datrysiadau) i brototeipio, profi a datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, fel y gall y rhain, yn y pen draw, fynd allan i’r farchnad fasnachol.
Sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector sy’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n dymuno datblygu a chynnal her. Rhaid i unrhyw sefydliad sy’n gymwys i’r gronfa fod yn ddarostyngedig i reolau cymorth gwladwriaethol
Mae’r gronfa’n croesawu ceisiadau heriau sydd o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdodau lleol canlynol:
Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Chaerdydd.
Yn gyntaf, mae angen problem gymdeithasol neu ddarparu gwasanaeth cyhoeddus yr hoffech ei datrys – problem nad oes iddi ateb ‘parod’ sy’n bodoli eisoes! Gallwn eich helpu i droi hyn yn friff gwych i ddarpar Ddarparwyr Datrysiadau — briff sy’n glir, yn gwahodd arloesedd, ac yn mapio’n gryno y tirweddau cyhoeddus a thechnegol y mae angen i’r datrysiad weithio ynddynt.
Perchnogion Her sy’n gyfrifol am redeg y tasgau o ddydd i ddydd, yn ogystal â rheoli cyllideb yr Her. Mae cyfanswm y gwariant ar gyfer camau 1, 2 a 3 yn amrywio gyda phob Her. Er bod y Gronfa Her yn agored i ariannu 100% o gostau’r her, mae’n well cael cyfraniadau gan ymgeiswyr a phartneriaid eraill.
Mae’n hanfodol bod gennych wybodaeth a phrofiad o’r broblem neu’r mater yr hoffech ei ddatrys. Bydd angen i chi ddefnyddio eich holl wybodaeth, profiad a mewnwelediad i gyfrannu at gyd-gynhyrchu gwirioneddol ac ystyrlon a rhannu syniadau, gan mai dyma’r unig ffordd y mae datrysiadau gwirioneddol wych yn dod i’r amlwg.
Yn olaf, mae ymrwymiad a chapasiti yn hanfodol. Mae angen cryn ffocws ac ymrwymiad amser. Rydym yn rhagweld y bydd angen i chi neilltuo o leiaf hanner diwrnod yr wythnos tuag at eich her yn ystod cam 1 – er ein bod wedi canfod bod llawer o Berchnogion Her yn neilltuo mwy o amser pan fyddant yn gweld y canlyniadau o ymgysylltu gweithredol ac ystyrlon yn y broses Her. Drwy gydol y broses bydd tîm cyflawni’r Gronfa Her yn eich cefnogi.
1. Ffurfio partneriaethau
Os ydych chi’n gorff cyhoeddus neu drydydd sector ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ystyriwch weithio mewn partneriaeth â chorff cyhoeddus neu drydydd sector arall yn y rhanbarth i nodi heriau a ffyrdd o uwchraddio atebion fel cymuned. Mae cydweithio cryf yn caniatáu rhannu arbenigedd a safbwyntiau gwahanol, ac yn cynyddu’r capasiti ar gyfer cyflwyno, dysgu a chefnogi.
2. Byddwch yn glir ynghylch y manteision
Y ceisiadau cryfaf sy’n dod i law yw’r rhai sy’n dangos aliniad clir â themâu strategol y Gronfa Her, ac yn mynegi’n glir sut y byddent yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnyddwyr gwasanaeth a’r gymdeithas ehangach.
Yn yr un modd, byddai esboniad clir a manwl o’r hyn sy’n gwneud yr her yn arloesol a sut mae’n mynd y tu hwnt i ‘fusnes fel arfer’ i’ch sefydliad hefyd o fudd i’ch cais.
3. Ystyriwch gyfleoedd ehangach ar gyfer yr atebion arloesol y bydd eich prosiect yn eu creu
Mae cyflwyniadau sydd wedi ystyried sut y gellid addasu neu gymryd datrysiadau her posibl i’r farchnad ar draws y rhanbarth, yn genedlaethol a thu hwnt, yn arbennig o ddeniadol. Pwy arall sydd â phroblem debyg a fyddai’n elwa o’r ateb i’ch her? Mae hyn yn bwysig iawn o ran cymell darpar Ddarparwyr Datrysiadau i ymateb i’ch her.
Mae’r Gronfa Her yn canolbwyntio ar adeiladu cyfoeth fel un o’i nodau cymdeithasol, felly mae heriau sydd â’r potensial i ysgogi darparwyr datrysiadau i ddatblygu ac uwchraddio yn allweddol.
4. Sut gallai canlyniad da edrych?
Mae’n bwysig pwysleisio, er y dylai ceisiadau’r Gronfa Her osgoi pennu ateb, y dylech ystyried ac egluro sut y gallai canlyniad cadarnhaol edrych. Siaradwch â phobl sydd â phrofiad byw a phroffesiynol. Gwnewch rywfaint o ymchwil. Beth mae eraill wedi’i wneud gyda her debyg, a pham nad yw hynny’n addas ar gyfer eich her chi?
5. Lluniwch gynllun clir ar gyfer darparu adnoddau a chyflawni’r Her
Mae’r cyflwyniadau cryfaf yn manylu ar eu strategaeth reoli, gan gynnwys meini prawf llwyddiant clir, amserlenni, a sut y bydd caffael yn cael ei gynnwys yn weithredol yn ystod yr Her.
Maent hefyd yn cynnwys trosolwg trylwyr o risgiau posibl, a sut y gellid eu lliniaru. Mae dangos sut y byddai’r cynllun cyflawni yn cyd-fynd â’r gyllideb arfaethedig hefyd yn allweddol.
6. Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to!
Mae arloesedd yn ymwneud â rhoi cynnig ar bethau, methu, a dysgu. Mae hyn yn berthnasol i gyflwyniadau, yn ogystal â chyflawni prosiectau her.
Os yw eich cyflwyniad o fewn y cwmpas ond yn aflwyddiannus a bod angen ei ddatblygu ymhellach, gall ein tîm cyflawni Cronfa Her eich cefnogi gyda chyflwyniadau, hwyluso trafodaethau, a chynnig cymorth pwrpasol arall ar gyfer ailgyflwyniad.
Os nad ydym yn credu bod eich prosiect o fewn cwmpas y Gronfa Her, byddwn yn ceisio eich cyfeirio at opsiynau cymorth eraill a allai fod o fudd.
Dyma’r pethau rydym yn gofyn i ddarpar Berchnogion Her eu hystyried, felly, os bydd eich cyflwyniad yn llwyddiannus, gallwn lunio briff gwych i ddarpar Ddarparwyr Datrysiadau ymateb i:
Beth yw’r broblem, ei chefndir a’i chyd-destun, pam mae’n bwysig, y manteision o’i datrys, a phwy fyddai’n elwa.
Pam rydych chi’n canolbwyntio ar yr Her hon, unrhyw ymdrechion rydych chi wedi’u gwneud i ddod o hyd i ateb, a pham nad ydyn nhw’n addas i’r diben.
Pwy yw’r defnyddwyr terfynol? A oes grwpiau defnyddwyr yn gysylltiedig â nhw? A oes grwpiau defnyddwyr yn gysylltiedig â nhw?
Beth yr hoffech ei weld o’r ateb, a sut olwg fyddai ar lwyddiant?
Beth sydd ynddi i’r Darparwr Datrysiadau llwyddiannus? Beth yw’r cyfle masnachol a ragwelir, o gontractau cychwynnol uniongyrchol a gaffaelir gan eich sefydliad i botensial y farchnad genedlaethol a rhyngwladol?
Pa adnoddau ydych chi’n eu darparu? Does dim angen i ni sôn am arian, data, gwybodaeth ac ymrwymiad – ond beth am bethau eraill fel interniaid, grwpiau dinasyddion, a chyfleoedd gwerthu?
Rydym wedi canfod ei bod yn hanfodol cael mewnbwn gan y bobl sy’n gyfrifol am gaffael o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn sicrhau y bydd yr hyn sy’n cael ei ddatblygu nid yn unig yn addas i’r diben ond y gallai eich sefydliad chi ei gaffael.
Mae croeso i sefydliadau gyflwyno nifer o geisiadau yn ystod un rownd o gyllid. Y peth allweddol yw sicrhau nad oes gorgyffwrdd rhwng syniadau Her rhwng y cyflwyniadau.
Rydym yn annog cydweithio gan fod hyn yn cynyddu’r gronfa o syniadau da a’r gallu i ddatblygu a chyflawni’r her, gan gynyddu’r farchnad bosibl ar gyfer atebion llwyddiannus hefyd.
Mae’r Gronfa Her yn darparu cyllid ar gyfer datblygu, profi a chyflawni datrysiadau yn gyntaf. Bydd costau sy’n gysylltiedig â rheoli a gweinyddu’r her yn gymwys os ydynt yn hanfodol i ddarpariaeth lwyddiannus.
Gall graddfa her a chyllideb amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar natur y broblem a’r costau tebygol a ysgwyddir wrth ddatblygu datrysiadau arloesol. Efallai y bydd Perchnogion Her am gyfrannu cyllid ychwanegol i’r Heriau a/neu nodi partneriaid ariannu addas.
Gall partneriaid ariannu ddod o’r tu allan i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Anogir darpar Berchnogion Her i drafod y gyllideb ar gyfer eu her benodol gyda Thîm Cronfa Her P-RC.
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Darparwyr Datrysiadau/Arloeswyr
Mae system her agored yn broses lle mae sefydliad yn nodi her ac yn gofyn am atebion. Gall unrhyw un sy’n credu bod ganddo ateb gyflwyno cynnig. Fel hyn, gall unrhyw unigolyn, tîm neu fusnes gyflwyno eu syniad mewn cystadleuaeth agored a theg. Mae’n ffordd wych o fanteisio ar yr holl arloesedd, creadigrwydd a dyfeisgarwch sydd allan yna yn aros i gael eu harneisio. I chi, mae’n gyfle gwych i ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd i ddatrys problem tra’n gweithio’n agos gyda Deiliad yr Her i ddeall ei ofynion yn llawn.
Unrhyw un o gwbl. Mae croeso i unigolion, timau ffurfiol ac anffurfiol, timau academaidd, busnesau cyn cychwyn, busnesau newydd, busnesau sefydledig o bob maint, elusennau a grwpiau cymunedol i gyd wneud cais.
Unwaith y bydd Heriau’n barod i alw ar Ddarparwyr Datrysiadau, byddant i’w gweld ar y wefan hon. Gallwch hefyd ddilyn @CCRChallenge ar Twitter, lle rydym yn cyhoeddi Heriau newydd cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi.
Na, sefydliadau sy’n nodi eu problemau eu hunain. Os credwch fod budd gwirioneddol i’w gael o ddatrys y broblem rydych wedi’i nodi, estynnwch allan i’r sefydliad, oherwydd efallai y bydd am gyflwyno cais i’r Gronfa Her.
Fel BBaCh, busnes newydd, busnes cyn cychwyn neu entrepreneur, mae rhaglen gyflenwi’r Gronfa Her yn cynnig cyfle digynsail i ymgysylltu â Deiliaid Her mewn ffordd ystyrlon, effeithiol a chynhyrchiol drwy gyd-gynhyrchu ateb arloesol, a datblygu perthynas â sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus/trydydd sector. Mae’n gyfle i adeiladu eich busnes tra’n gwneud gwaith cadarnhaol i wella eich rhanbarth, a gellid hefyd agor drysau i gyfleoedd a marchnadoedd newydd.
Os ydych chi’n meddwl y gall eich ateb/syniad ymdrin â mwy nag un her, gwych. Fodd bynnag, dylid teilwra’r cais ar gyfer pob Cystadleuaeth Her, yn hytrach na gwneud cais ‘copïo a gludo’ cyffredinol. Cofiwch efallai na fydd y ceisiadau’n cael eu dewis i’w hystyried ymhellach ar gyfer y ddwy her.
Gallwch.
Yn gyffredinol, mae eiddo deallusol yn cael ei gadw gan y cwmni sy’n Ddarparwr Datrysiadau, gyda hawliau defnyddwyr yn cael eu harfer gan y Perchnogion Her o dan gontract ar wahân o dan delerau teg a rhesymol. Anogir Perchnogion Her i geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain ar drin eiddo deallusol wrth gontractio gyda chyflenwyr yn unol â’r fethodoleg herio a ddefnyddir, gan y gellir defnyddio gwahanol fodelau drwy gytundeb rhwng y ddwy ochr.