Rhestr Termau a Byrfoddau
Rhestr Termau Cronfa Her P-RC
Term | Disgrifiad |
---|---|
Bwrdd Cynghori | Panel o randdeiliad-gynrychiolwyr sy'n rhoi cyngor ac adborth ar heriau i'r Bwrdd Strategol. |
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) | Mae hyn yn cwmpasu rhanbarth De-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerdydd. |
Canolfan Ymchwil Polisi Arloesi (CYPA) Prifysgol Caerdydd | Mae CYPA yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol yn y brifysgol ac, ochr yn ochr â’r Lab, mae'n gweithio gyda P-RC i ddarparu'r Gronfa Her. |
CEGA – Cymunedau Economi Gylchol ac Arloesi | Rhaglen sy'n canolbwyntio ar yr economi gylchol sy'n cefnogi rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu atebion gwasanaeth newydd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. |
Cydweithredu ar Her | Gall gwmpasu unrhyw ddull herio ond bydd yn wahanol gan y bydd cydweithrediad yn darparu ar gyfer heriau sydd o ddiddordeb a budd i'r ddwy ochr. Gall hyn gynnwys cydweithredu rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gynnal heriau sydd o fudd i bawb. |
Cronfa Her | Mae Cronfa Her yn gwahodd cynigion gan sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector i gyflwyno cynigion prosiect. Mae'r Gronfa Her yn dyfarnu grantiau i'r prosiectau hynny sy'n bodloni amcanion y gronfa orau ac sy’n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. |
Cymuned Maes y Gronfa Her *Cofrestrwch i gael mynediad i’r adran Fforwm Cronfa Her ar ein gwefan | Rhwydwaith o bobl sydd â diddordeb mewn arloesedd a arweinir gan her, cyfathrebu mewn man diogel lle gellir rhannu syniadau, problemau ac atebion, a ffurfio partneriaethau newydd ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol. |
Perchennog Her | Y sefydliad cyhoeddus/trydydd sector sy'n berchen ar yr her ac sy'n arwain ar gyflawni'r her o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli'r gyllideb. |
Gwobrau Her | Mae Gwobrau Her yn gystadlaethau sy'n dewis problemau penodol ac yn cymell pobl i'w datrys gyda'u syniadau, eu technoleg a'u datrysiadau cynaliadwy eu hunain. Mae Gwobrau Her yn cynnig gwobr (ariannol fel arfer) am yr ateb cyntaf neu orau i'r broblem a nodwyd. |
Cyllido Torfol | Mae cyllido yn ddull o ariannu prosiectau a busnesau arloesol drwy lawer o roddion bach gan grŵp mawr o bobl. Mae'n caniatáu i nifer o fuddsoddwyr fuddsoddi symiau llai o arian yn unigol mewn prosiect. |
Cyfrannu Torfol | Chwilio am wybodaeth, gwasanaethau neu syniadau am atebion gan grŵp mawr o bobl. Os caiff ei gymhwyso'n gywir, gall cyfrannu torfol gasglu syniadau gwych gan bobl sydd â sgiliau gwahanol i'r rhai mewnol, a sbarduno ymgysylltiad cyd-greu ar gyfer penderfyniadau dylunio. Ymhlith y posibiliadau negyddol i'w hosgoi mae cyflwyno rhagfarn, symud i’r cyfeiriad anghywir, colli'r dalent orau a thanseilio cyfrinachedd. |
Datganiad o Ddiddordeb | Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yw cam cyntaf y broses ymgeisio. Ffurflen anffurfiol yw hon sy'n dangos yn gryno eich her arfaethedig, ardal ddaearyddol, sector a manylion cyswllt. |
Cyllid Grant | Cyllid nad yw'n ad-daladwy sy'n ddarostyngedig i reolau Cymorth Gwladwriaethol De Minimus / Fframwaith Rheoli Cymhorthdal. |
Infuse – Rhaglen Gwasanaethau Arloesi’r Dyfodol | Y chwaer-raglen i Gronfa Her P-RC. Mae’n cefnogi awdurdodau lleol yn y rhanbarth i gael gafael ar sgiliau, offer a dulliau newydd i feithrin capasiti a galluoedd i feithrin ecosystem arloesi mewn sefydliadau sector cyhoeddus yn y rhanbarth. Mae Infuse yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Fynwy ac mae'n gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd (CYPA), Y Lab, Swyddfa Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC), a'r deg awdurdod lleol sy'n ffurfio'r rhanbarth. |
Partneriaethau Arloesi | Mae Partneriaethau Arloesi yn galluogi’r gwaith o ddatblygu mathau newydd o nwyddau a gwasanaethau ac yn ysgogi'r farchnad drwy benodi un neu nifer o bartneriaid. They compete to conduct separate research and development activities funded through the contract. Maent yn cystadlu i gynnal gweithgareddau ymchwil a datblygu ar wahân a ariennir drwy'r contract. |
Arloesi mewn Caffael | Torri drwy fframweithiau caffael traddodiadol i greu modelau newydd. |
Caffael Arloesol | Mae Caffael Arloesedd yn arf i ddarparu atebion i heriau economaidd a chymdeithasol drwy broses agored a chystadleuol. |
Innovate UK | Asiantaeth arloesi'r DU, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, sef yr asiantaeth ariannu genedlaethol sy'n buddsoddi mewn gwyddoniaeth ac ymchwil yn y DU. |
Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (RhTG) | Rhwydwaith o arbenigwyr ledled y DU sy'n cysylltu syniadau, pobl a chymunedau i ymateb i heriau a sbarduno newid cadarnhaol drwy arloesi. |
Arloesi a Arweinir gan Genhadaeth neu Arloesi sy’n Canolbwyntio ar Genhadaeth | Ystyr arloesi yw creu gwerth drwy greadigrwydd a newydd-deb. O dan CHP-RC, mae arloesi sy'n canolbwyntio ar genhadaeth yn ysgogi cydweithredu i ddarparu atebion newydd a canlyniadau gweithredol gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn creu gwerth cyhoeddus i gymdeithas. Mae dull gweithredu cenhadaeth yn uchelgeisiol - fel arfer mae angen partneriaeth gydweithredol ar draws sectorau a disgyblaethau i ddatrys problemau cymdeithasol cymhleth. |
Her Agored | Proses lle mae sefydliad yn nodi her heb bennu ateb ac yn gofyn i'r ecosystem ehangach gynnig atebion. |
Her Ymateb Cyflym | Cynnig her llwybr carlam i fodloni gofynion/newidiadau annisgwyl mewn cymdeithas, er enghraifft heriau sy'n ymwneud â Covid-19. |
Dull MYBB | Mae caffael cyn-fasnachol (CCF) yn herio Darparwyr Datrysiadau i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer anghenion sector cyhoeddus ac yn galluogi Darparwyr Datrysiadau i greu mantais gystadleuol ar y farchnad. Mae CCF yn galluogi caffaelwyr cyhoeddus i gymharu cynigion posibl amgen a hidlo'r atebion gorau posibl, y gall y farchnad eu cyflawni, i fynd i'r afael ag anghenion y cyhoedd. Lle mae ateb i her yn addawol iawn, gellid caffael y datrysiad hwn wedyn drwy broses gaffael agored gwbl ar wahân. |
Heriau MYBB | Fel arfer, mae dulliau MYBB o ddatblygu atebion arloesol wedi'u strwythuro i mewn i ddatblygiad graddol, dichonoldeb a phrototeipio, a gallant gynnwys uwchraddio hyd at fabwysiadu'r arloesi. Pan fydd cynnyrch neu wasanaeth sy'n gweithio'n llawn yn cael ei ddatblygu, bydd y Darparwr Datrysiadau’n mynd drwy broses gaffael ffurfiol gyda Pherchennog yr Her. |
Canolfan Ragoriaeth MYBB | Wedi'i chynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, nod CR MYBB yw gweithio gyda chyrff sector cyhoeddus i nodi a datrys anghenion neu heriau nas atebwyd, cynnal cystadlaethau a gwahodd diwydiant i ddatblygu atebion arloesol a chyffrous. |
Darparwr Datrysiadau | Yr arloeswr sy'n ceisio darparu ateb i her arfaethedig. Gall Darparwyr Datrysiadau fod o unrhyw sector. |
Bwrdd Strategol | Mae'r Bwrdd Strategol yn goruchwylio ac yn cydlynu Rhaglen y Gronfa Her ac mae ganddo bwerau i wneud penderfyniadau. |
Lefelau Parodrwydd Technoleg (LPTau) | Dull o amcangyfrif aeddfedrwydd technoleg sy'n esblygu wrth iddi drosglwyddo o ymchwil wyddonol, drwy ymchwil gymhwysol, i barodrwydd ar gyfer y farchnad (Lefelau 1 – 9). |
Y Lab | Labordy arloesi gwasanaethau cyhoeddus Prifysgol Caerdydd a rhan o dîm cyflenwi Cronfa Her P-RC. |
Byrfoddau
Term | Byrfodd |
---|---|
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd | P-RC |
Prifysgol Caerdydd | PC |
Canolfan Ymchwil Polisi Arloesi Prifysgol Caerdydd | CYPA |
Cronfa Her P-RC | CHP-RC |
Cronfa Her | CH |
Cronfa Gymdeithasol Ewrop | CGE |
Datganiad o Ddiddordeb | DoDd |
Byrddau Iechyd | BIau |
Sefydliadau Addysg Uwch (prifysgolion) | SAUau |
Innovate UK | IUK |
Eiddo Deallusol | ED |
Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth | RhTG |
Awdurdod Lleol | ALl |
Canolfan Ragoriaeth MYBB | CR MYBB |
Lefel Parodrwydd Technoleg | LPT |
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru | WEFO |
Llywodraeth Cymru | LlC |